Maes Gwasanaeth: Cymunedau
Maes Gwaith: Tîm Datblygu'r Rhaglen Datblygu Gwledig (Cynllunio)
Manylion cyswllt: 01443 838632, RhaglenDatblyguGwledig@caerffili.gov.uk
Enw'r Hysbysiad Preifatrwydd: Ein Pantri Ar-lein
Disgrifiad o'r Hysbysiad Preifatrwydd: Datblygu a chynnal map bwyd/gwefan o gynhyrchwyr bwyd a diod lleol. Bydd y wefan yn tynnu sylw at economi bwyd a diod lleol Caerffili a Blaenau Gwent ac yn darparu delwedd o'r cynnyrch sydd ar gael i'w gasglu neu ei ddosbarthu. Bydd y map yn hwyluso cadwyni cyflenwi byrrach ac yn diogelu'r amgylchedd drwy dorri i lawr y nifer o filltiroedd mae bwyd yn cael ei gludo.
Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth
Y diben a'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth
Diben y gwaith prosesu
Bydd y wybodaeth a roddwch chi yn cael ei defnyddio i greu map bwyd/gwefan o fusnesau lleol yn ardaloedd Caerffili a Blaenau Gwent sy'n cynnig cynhyrchion bwyd a diod a gynhyrchir yn lleol a bydd yn galluogi pobl i weld pa gynnyrch a chynhyrchwyr artisan gwych sydd gennym ni ar ein stepen drws.
Bydd cwsmeriaid yn gallu archebu ymlaen llaw gan gynhyrchwyr ar y map a chasglu o ganolbwynt canolog a ddarperir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Bydd y wefan hefyd yn rhoi cwsmeriaid mewn cysylltiad uniongyrchol â chynhyrchwyr sy'n cynnig gwasanaeth dosbarthu i gartrefi, casglu neu werthu wrth giât fferm, gan sicrhau bod yr holl gasgliadau a dosbarthiadau yn cael eu gwneud yn ddiogel.
Bwriad y gwaith prosesu yw annog pobl i gefnogi busnesau lleol drwy brynu'n lleol. Gan fod y prosiect wedi'i ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru, bydd eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu at ddibenion archwilio, monitro a gwerthuso.
Sail gyfreithiol ar gyfer y gwaith prosesu
Rydym yn dibynnu ar y darpariaethau Diogelu Data canlynnol i brosesu'ch gwybodaeth:
Mae angen cytundeb gan gynhyrchwyr/cyflenwyr lleol i'w manylion gael eu cynnwys ar y map bwyd/gwefan ac mae gennych chi yr hawl i ofyn i'ch manylion gael eu tynnu o'r map bwyd/gwefan ar unrhyw adeg. Fodd bynnag, gan fod hwn yn brosiect wedi’i ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymrubydd eich gwybodaeth yn dal i gael ei phrosesu at ddibenion archwilio, monitro a gwerthuso, ac er mwyn i brosesu data personol fod yn gyfreithlon o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016, mae'n rhaid nodi amod dilys o Erthygl 6 o'r Rheoliad, a amlinellir isod: (nid yw ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw):
1f. processing is necessary for the purpose of the legitimate interests pursued by the controller or by a third party except where such interests are overridden by the interests or fundamental rights and freedoms of the data subject which require protection of personal data, in particular where the data subject is a child.
I ofyn i'ch manylion gael eu tynnu o'r map bwyd/gwefan, cysylltwch â'r Maes Gwasanaeth y mae ei fanylion ar frig y ddogfen hon.
Pwy fydd yn cael mynediad at eich gwybodaeth?
Manylion y Rheolydd Data a'r Swyddog Diogelu Data
Y Rheolydd Data ar gyfer eich gwybodaeth yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Y
Swyddog Diogelu Data yw:
Ms Joanne Jones
Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth Gorfforaethol/Swyddog Diogelu Data
E-bost: DiogeluData@caerffili.gov.uk
Ffôn: 01443 864322
Efallai y bydd Rheolyddion Data eraill hefyd yn gyfrifol am eich gwybodaeth, yn dibynnu ar yr amgylchiadau penodol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Maes Gwasanaeth.
Gan fod hwn yn brosiect a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru, bydd eich gwybodaeth yn cael ei cadw a'i defnyddio at ddibenion archwilio, monitro a gwerthuso.
Cysylltwch â'r maes gwasanaeth a nodir ar frig y ddogfen hon am ragor o wybodaeth.
Manylion am brif ddefnyddwyr eich gwybodaeth
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili - Tîm Datblygu'r Rhaglen Datblygu Gwledig sy'n gyfrifol am reoli'r “map bwyd”/gwefan.
I ddechrau, Prifysgol Aberystwyth fydd y darparwr meddalwedd, ond efallai y bydd cwmni cynnal gwefan allanol yn disodli'r brifysgol ar ôl cwblhau dylunio'r wefan.
Grŵp Gweithredu Lleol ‘Cwm a Mynydd’ sy’n gyfrifol am oruchwylio prosiectau tîm Datblygu’r Rhaglen Datblygu Gwledig ac adrodd i Lywodraeth Cymru ar fentrau a gefnogir.
Manylion am unrhyw rannu o'ch gwybodaeth o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Manylion am unrhyw achos o rannu'ch gwybodaeth â sefydliadau eraill
Bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda'r cwmni a ddewisir i gynnal y wefan ar ôl i'r gwaith dylunio'r wefan gael ei gwblhau.
Efallai y bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu â Llywodraeth Cymru at ddibenion archwilio, monitro a gwerthuso
Manylion am unrhyw brosesyddion data allanol
Cwmni cynnal gwefannau a fydd yn cael ei ddewis ar ôl cwblhau'r gwaith dylunio'r gwefan.
Ceisiadau am wybodaeth
Mae'n bosibl y bydd yr holl wybodaeth a gedwir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn destun ceisiadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a deddfwriaeth Diogelu Data.
Os bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych yn destun cais o'r fath, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymgynghori â chi ynghylch ei rhyddhau, lle bo hynny'n bosibl. Os byddwch yn gwrthwynebu rhyddhau eich gwybodaeth, byddwn yn cadw'r wybodaeth yn ei hôl, os bydd y ddeddfwriaeth berthnasol yn caniatáu i hynny ddigwydd.
Pa mor hir byddwn yn cadw’ch gwybodaeth
Manylion am y cyfnod cadw
Mae'r cyfnod y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cadw gwybodaeth yn cael ei bennu drwy ofynion statudol neu arferion gorau.
Bydd eich manylion yn cael eu tynnu o'r map bwyd/gwefan leol o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl i chi ofyn iddynt gael eu tynnu.
Bydd y wybodaeth sy'n ofynnol at ddibenion archwilio, monitro neu werthuso yn cael ei chadw am 7 mlynedd.
Byddwn yn cadw'ch holl wybodaeth yn ddiogel, p'un ai a gedwir yn electronig neu ar bapur. Dim ond am cyfnod a nodwyd uchod y cedwir eich gwybodaeth, ac ar ôl hynny bydd yn cael ei dinistrio'n ddiogel yn unol â Pholisi Cadw a Gwaredu Cofnodion y Cyngor.
Eich Hawliau (gan gynnwys y Weithdrefn Gwyno)
Eich hawliau dan gyfraith Diogelu Data
Mae'r Ddeddf Diogelu Data yn rhoi nifer o hawliau i destun y data (y rheiny y mae'r wybodaeth yn sôn amdanynt):
Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar gael ar y wefan hon: www.ico.org.uk
Er mwyn arfer eich hawliau, cysylltwch â'r maes gwasanaeth y manylir arno ar frig y ffurflen hon.
Y Weithdrefn Gwyno
Os ydych yn anfodlon â'r modd y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymdrin â'ch cais/gwybodaeth, mae gennych yr hawl i gwyno. Cysylltwch â'r Maes Gwasanaeth a fanylir ar frig y ddogfen hon gan amlinellu eich materion.
Os byddwch yn parhau'n anfodlon, mae gennych hefyd yr hawl i gwyno wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Am ragor o wybodaeth am y broses gwyno, dilynwch y ddolen hon.